P-04-676 Establish a welsh language champion in our communities in Wales – Correspondence from the Petitioner to the Committee, 19.12.16

Diolch yn fawr iawn,

Yn ymateb i'r ebost isod, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am symud ymlaen gyda'r syniad, ac flwyddyn yma mi roedd y syniad wedi ei groesawu gan Carwyn Jones, ac nifer eraill.

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg am ei sylwadau ac ymateb i lythyr y Cadeirydd yn ddiweddar. Dwi'n croesawu'r ffaith ei fod am ysgrifennu at Un Llais Cymru i ddechrau y broses, ond dwi yn pryderu ychydig bach bydd y mater yma yn cael ei anwybyddu gan Un Llais, yn enwedig yn dilyn profiad o fod yn delio gyda nhw drwy'r gyfrwng Saesneg yn unig.

Byddwn i'n agored iawn i arwain ar y gwaith yma yn wirfoddol ar rhan y Llywodraeth, a trio gosod polisiau ar gyfer trafodaeth pellach yn y pwyllgor Llywodraeth Lleol/Pwyllgor Iaith.

Diolch yn fawr

Sion

Sion Jones